Adolygiad Achos

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Adolygiad Achos De Cymru

Mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu rhwyd
diogelwch pwysig i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson a’r rhai
hynny a all fod fwyaf agored i niwed.

DYSGU MWY GOFYN AM ADOLYGIAD

BETH YW ADOLYGIAD ACHOS YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL?

Caiff ymddygiad gwrthgymdeithasol ei ddiffinio fel ymddygiad sy’n achosi aflonyddwch, trallod a gofid. Mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn galluogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson, sydd wedi hysbysu am ddigwyddiadau yn flaenorol, i ofyn am adolygiad o’u hachos os credant nad oedd y camau a gymerwyd yn ddigonol.

Bydd hyn yn cyfuno’r asiantaethau perthnasol er mwyn rhannu gwybodaeth, adolygu’r camau a gymerwyd a cheisio canfod ateb gyda’r gobaith y bydd hyn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.

Nid yw’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn weithdrefn gwyno ac felly nid yw’n disodli’r prosesau cwyno mewnol ar gyfer asiantaethau unigol.

Os caiff ei roi ar waith, caiff panel amlasiantaeth ei ffurfio er mwyn adolygu’r achos. Bydd y dioddefwr yn cael ymateb o fewn 28 diwrnod i roi’r Adolygiad Achos ar waith.

Os nad yw’r dioddefwr yn fodlon ar y canlyniad neu’r ffordd y cafodd ei reoli, yna gall apelio.

CAIFF YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL EI DDIFFINIO FEL YMDDYGIAD SY'N ACHOSI AFLONYDDWCH, TRALLOD NEU OFID I BERSONAU NAD YDYNT O’R UN AELWYD.

Pwy all ddefnyddio'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

  • Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Rhywun sy’n cynrychioli’r dioddefwr megis gofalwr, cynghorwr neu aelod o’r teulu. Rhaid cael caniatâd y dioddefwr cyn gwneud y cais.
  • Cymunedau neu Fusnesau.

Pryd y gellir ei ddefnyddio? Trothwyon

  • Tri achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod o chwe mis y rhoddodd un person wybod amdanynt.
  • Pum achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod cyfnod o chwe mis yn cynnwys lleoliad cysylltiedig y mae mwy nag un person wedi rhoi gwybod amdano.
  • Un achos o drosedd casineb y rhoddwyd gwybod amdano gan un person.

Eich Cydlynwyr Sbardun Cymunedol Lleol

E-bost: ASBReferral@cardiff.gov.uk

Enw Cyswllt: Neal Benyon

Cyfeiriad E-bost: NBenyon@cardiff.gov.uk

Ffôn: 02920 537199

E-bost: saferbridgend@bridgend.gov.uk

Enw Cyswllt: Heather Dobbs

Cyfeiriad E-bost: heather.dobbs@bridgend.gov.uk

Ffôn: 01656 306069

E-bost: safervale@valeofglamorgan.gov.uk

Enw Cyswllt: Stacey Evans

Cyfeiriad E-bost: sevans@valeofglamorgan.gov.uk

Ffôn: 01446 704780

E-bost: community.safety@swansea.gov.uk

Enw Cyswllt: Karly Coombes

Cyfeiriad E-bost: karly.coombes@swansea.gov.uk

Ffôn: 01792635600

E-bost: community.safety@npt.gov.uk

Enw Cyswllt: Sarah Williams

Cyfeiriad E-bost: s.williams24@npt.gov.uk

Ffôn: 01639 889113

E-bost: PublicHealthCommunitySafety@rctcbc.gov.uk

Enw Cyswllt: Katie Davies

Cyfeiriad E-bost: katie.davies@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425001

E-bost: community.safety@merthyr.gov.uk

Enw Cyswllt: Carl Cooper

Cyfeiriad E-bost: carl.cooper@merthyr.gov.uk

Ffôn: 01685 725000

Cwestiynau Cyffredin

Mae hwn yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae’r ddeddfwriaeth wedi rhoi cyfrifoldeb statudol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gyfer adnoddau a phwerau newydd, sef yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol – cafodd hwn ei gyflwyno ledled ardal Heddlu De Cymru yn 2015. Mae’r broses yn gweithredu fel “rhwyd diogelwch backstop  i ddioddefwyr” (unigolion neu grwpiau o unigolion) sydd wedi:

  • Dioddef neu hysbysu am o leiaf dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod o chwe mis.
  • Hysbysu am bob un o’r achosion hyn o fewn mis i’r adeg y digwyddiad

Y diben yw adolygu achosion a chamau sydd wedi cael eu cymryd o ganlyniad i roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y nod yw sicrhau bod lefelau gorfodi a chymorth priodol naill ai ar waith neu wedi cael eu hystyried.

  • Dioddefwr ymddygiad gwrthgymdeithasol – Gall unrhyw ddioddefwr sydd wedi hysbysu am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis wneud cais i ystyried cynnal adolygiad achos.
  • Cynrychiolydd Dioddefwr – trydydd parti fel aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, AS neu berson proffesiynol arall. Gall trydydd parti ond gwneud cais am adolygiad achos ar ran dioddefwr os oes ganddo ganiatâd ysgrifenedig y dioddefwr. Caiff gwiriadau eu gwneud er mwyn sicrhau bod ceisiadau trydydd partïon yn ddilys; Cysylltir â’r dioddefwr er mwyn sicrhau ei fod yn hapus â’r cais sy’n cael ei wneud.
  • Busnes neu grŵp cymunedol.

Na, nid yw hon yn broses gwyno. Os hoffech wneud cwyn am ymddygiad unigolyn, mae’n rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno sefydliad penodol yr unigolyn hwnnw.

Mae’n rhaid ymgynghori â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu lleol pan fo gweithdrefn Sbardun Cymunedol/ Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol  wedi’i sefydlu a phryd bynnag y caiff ei adolygu. Gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fod yn rhan uniongyrchol o’r weithdrefn, er enghraifft drwy;

  • archwilio adolygiadau achos;
  • darparu llwybr i ddioddefwyr wneud ymholiad ynglŷn â’r penderfyniad am b’un a fodlonwyd y trothwy neu’r ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad neu
  • drwy fonitro’r defnydd o Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol/Sbardun Cymunedol i nodi unrhyw ddysgu ac arferion gorau.

Hefyd, mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gyfrifoldebau am gomisiynu gwasanaethau i ddioddefwyr, ac efallai y byddant hefyd am sicrhau bod asiantaethau lleol yn ystyried sut y caiff y dioddefwr ei gefnogi fel rhan o’r broses.

Er mwyn rhoi’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar waith, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gyswllt ar y wefan i gofnodi dyddiad pob digwyddiad y rhoddwyd gwybod amdano, pwy yr hysbyswyd, gan gynnwys enw, sefydliad a/neu rif cyfeirnod os oes un ar gael. Hefyd, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am y digwyddiad y gwnaethoch roi gwybod amdano. Bydd gofyn i chi gytuno i’ch manylion a’ch gwybodaeth gael eu rhannu ag asiantaethau eraill.

Ar ôl gwneud cais am adolygiad achos, caiff y ffurflen gyswllt ei chyflwyno yn electronig drwy e-bost i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Cofnodir y manylion a chaiff yr achos ei anfon at gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Awdurdod Lleol perthnasol, lle y caiff penderfyniad ei wneud gydag asiantaethau amrywiol am b’un a ddylai panel amlasiantaethol gael ei gynnull. Bydd y dioddefwr yn cael ymateb o fewn 28 diwrnod.

Bydd proses apelio ar gael.

Ffigurau Adolygiadau Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

De Cymru 2018 De Cymru 2019 De Cymru 2021 De Cymru 2022 De Cymru 2023 De Cymru 2024 De Cymru 2025
Nifer y ceisiadau Sbardun Cymunedol a gafwyd 12 23 1 12 18 29 37
Sawl gwaith y methwyd â chyrraedd y trothwy ar gyfer adolygiad 1 3 0 8 4 9 13
Apêl 0 1 1 0 1 2 3

GOFYN AM ADOLYGIAD