BETH YW ADOLYGIAD ACHOS YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL?
Caiff ymddygiad gwrthgymdeithasol ei ddiffinio fel ymddygiad sy’n achosi aflonyddwch, trallod a gofid. Mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn galluogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson, sydd wedi hysbysu am ddigwyddiadau yn flaenorol, i ofyn am adolygiad o’u hachos os credant nad oedd y camau a gymerwyd yn ddigonol.
Bydd hyn yn cyfuno’r asiantaethau perthnasol er mwyn rhannu gwybodaeth, adolygu’r camau a gymerwyd a cheisio canfod ateb gyda’r gobaith y bydd hyn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.
Nid yw’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn weithdrefn gwyno ac felly nid yw’n disodli’r prosesau cwyno mewnol ar gyfer asiantaethau unigol.
Os caiff ei roi ar waith, caiff panel amlasiantaeth ei ffurfio er mwyn adolygu’r achos. Bydd y dioddefwr yn cael ymateb o fewn 28 diwrnod i roi’r Adolygiad Achos ar waith.
Os nad yw’r dioddefwr yn fodlon ar y canlyniad neu’r ffordd y cafodd ei reoli, yna gall apelio.
CAIFF YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL EI DDIFFINIO FEL YMDDYGIAD SY'N ACHOSI AFLONYDDWCH, TRALLOD NEU OFID I BERSONAU NAD YDYNT O’R UN AELWYD.
Pwy all ddefnyddio'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
- Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Rhywun sy’n cynrychioli’r dioddefwr megis gofalwr, cynghorwr neu aelod o’r teulu. Rhaid cael caniatâd y dioddefwr cyn gwneud y cais.
- Cymunedau neu Fusnesau.
Pryd y gellir ei ddefnyddio? Trothwyon
- Tri achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod o chwe mis y rhoddodd un person wybod amdanynt.
- Pum achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod cyfnod o chwe mis yn cynnwys lleoliad cysylltiedig y mae mwy nag un person wedi rhoi gwybod amdano.
- Un achos o drosedd casineb y rhoddwyd gwybod amdano gan un person.